Dyma yw peirianneg sifil

Mae peirianwyr sifil yn llunio'r byd o'n cwmpas
Heb beirianwyr sifil, ni fyddai'r byd sy'n adnabyddus i ni yn bodoli... oherwydd mae peirianwyr sifil yn adeiladu'r isadeiledd (y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae eu hangen ar gymdeithas) sy'n cynnal ein bywydau bob dydd ac sy'n gwella ansawdd ein bywyd.

Bob tro y byddwch yn agor tap, yn rhoi'r golau, yn tynnu'r dŵr yn y tŷ bach, yn dal trên, yn croesi'r ffordd... rydych yn cael budd o beirianneg sifil.

Peirianneg ryfeddol
Gellir gweld y ffyrdd rhyfeddol y mae peirianwyr sifil yn goresgyn yr heriau o greu a chynnal ein hisadeiledd ar ein cyfer ni ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn llyfr ICE, Little Book of Civilisation (Llyfr Bach Gwareiddiad). Atebir llawer o'r heriau hyn mewn ffordd sy'n gynaliadwy, ac fe gaiff pob un ei hateb yn steilus ac yn arloesol.

Petawn innau'n dod yn beiriannydd sifil, beth fyddwn i'n ei wneud mewn gwirionedd?
Fel peiriannydd sifil, gallech fod yn gweithio ym maes cynllunio, adeiladu a chynnal tyrau, twnelau, pontydd, argaeau, porthladdoedd, stadiymau chwaraeon, ysbytai, meysydd awyr, ffyrdd, rheilffyrdd, adeiladau uchel ac adeileddau mawrion yn y DU a thrwy’r byd i gyd.

Ar wahân i wella ansawdd ein bywydau, mae angen peirianwyr sifil mewn argyfyngau: ar ôl daeargrynfeydd, yn ystod cyfnodau o sychder ac ar adeg rhyfel. Fel peiriannydd sifil, gallech wneud gwahaniaeth cadarnhaol trwy helpu'r boblogaeth leol i ailadeiladu neu gynnal yr isadeiledd hanfodol a fydd yn eu cadw'n fyw.

Pwy a ŵyr i ble gallai'r gwaith hwn eich arwain...

A ydych chi'n barod i adeiladu byd gwell?



 
 

ENGLISH

Dyma yw peirianneg sifil

Os ydych yn darllen hwn byddwch wedi gweld un o'r prosiectau peirianneg sifil niferus ar draws y DU sy'n gwella ein hisadeiledd.

Dilynwch y dolennau ar y dudalen hon a chwiliwch ein gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch peirianneg sifil.

Beth yw ICE?

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yn gorff blaenllaw sy'n rhoi cymwysterau proffesiynol i beirianwyr sifil, ac sy'n darparu cyfoeth o wybodaeth a chyngor arbenigol o ran peirianneg sifil i'r llywodraeth. Rydym yn sefydliad uchel ei barch a gydnabyddir yn rhyngwladol, gyda thros 80,000 o aelodau ledled y byd.

Ymunwch â ni!
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ddod yn beiriannydd sifil, neu gael cymorth wrth benderfynu a yw peirianneg sifil yn eich siwtio chi, ewch i'n parth addysg.

Os ydych wedi penderfynu yn barod mai peirianneg sifil yw'r yrfa i chi, yna gall ICE gynnig arweiniad, cyngor a gwybodaeth i chi ynghylch dod yn beiriannydd sifilneu’n dechnegydd sydd â chymhwyster proffesiynol. Rydym yn cynnig 8 gradd o aelodaeth yn cynnwys aelodaeth Gyswllt, ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn galwedigaeth gysylltiedig, gydag aelodaeth am ddim i fyfyrwyr.

Cysylltwch â ni

Ceir gwybodaeth gyswllt gyffredinol yma.

Gall Peirianwyr Sifil ymglymu wrth Dyma yw Peirianneg Sifil drwy gynnwys ein gwaith celf ar arwyddion safle neu drwy ddangos baneri neu bosteri finyl ar y safle.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:
e wales.cymru@ice.org.uk
ff: +44 (0)29 2063 0561